P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ebbw Fawr Business Community, ar ôl casglu cyfanswm o 1,332 lofnodion ar bapur.

 

Geiriad y ddeiseb:                   

Hoffai'r bobl isod fynegi pryder ynghylch y drafnidiaeth gyhoeddus wael sy'n cael ei darparu ym Mlaenau Gwent. Mae'r sefyllfa hon wedi arwain at drigolion yn dioddef anawsterau wrth geisio teithio i'r gwaith. Maent hefyd yn cael problemau wrth geisio teithio i ysbytai ac apwyntiadau doctor er mwyn cael sylw meddygol. Mae'r toriadau hefyd wedi gwneud y broses o deithio ar yr amseroedd gorau yn llafurus ac, mewn rhai achosion, yn amhosibl.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Blaenau Gwent

·         Dwyrain De Cymru